Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
4 Rhagfyr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6048
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5 a 7. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 a 9. Tynnwyd cwestiynau 7 a 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.58
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
David Rees (Aberafan) A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1000 o swyddi yn y DU?
Gofyn i’r Prif Weinidog
Leanne Wood (Rhondda): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r bygythiad i ddinasyddion Cymru yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener diwethaf?
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - Dengmlwyddiant y Panel Cynghori Is-Sahara.
Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am - Stryd Fawr Treorci yn cystadlu yn erbyn stryd fawr trefi o bob cwr o’r DU am y stryd fawr orau.
Dechreuodd yr eitem am 15.27
NDM7210 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.54
NDM7212 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Eiddo gwag', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM7213 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r: Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7214 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i seneddau datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig;
b) i Aelodau Seneddol o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;
c) ddiddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
37 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn croesawu'r cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE.
4. Yn cydnabod, o dan y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros gytuniadau rhyngwladol.
5. Yn cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
33 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
3 |
15 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7214 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
4. Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
7 |
11 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.20
Ni chyflwynwyd cynnig
Daeth y cyfarfod i ben am 18.22
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2019